2011 Rhif 2684 (Cy. 287)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn cydategu Pennod 1 o  Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”). Mae’r Bennod honno’n gwneud darpariaeth ar gyfer caffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangre y mae’r Bennod yn gymwys iddi gan gwmni y caniateir iddo gaffael ac arfer yr hawliau hynny (sef cwmni sy’n cael ei adnabod fel cwmni Hawl i Reoli neu “cwmni RTM”).

Penderfynwyd dirymu a disodli’r rheoliadau presennol, sef  Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/678) yn hytrach na’u diwygio.  Y rheswm am hyn oedd bod Gweinidogion Cymru’n cydnabod bod y Rheoliadau hyn yn debyg o gael eu defnyddio gan bobl nad oes cyngor proffesiynol ar gael ganddyn nhw. Barn Gweinidogion Cymru yw y byddai’n peri dryswch petai’r ceiswyr yn defnyddio dwy set o reoliadau er mwyn sefydlu eu cwmni RTM.

Cyn y gall cwmni RTM gaffael yr hawl i reoli mangre, rhaid iddo roi hysbysiad (“hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan”) i’r tenantiaid hynny mewn fflatiau yn y fangre sy’n “denantiaid cymwys” (gweler adran 75 o Ddeddf 2002) fod y cwmni’n bwriadu caffael yr hawl. Rhaid i’r hysbysiad wahodd y rhai sy’n ei gael i ddod yn aelodau o’r cwmni RTM. Mae Rheoliad 3, y mae Atodlen 1 yn berthnasol iddo hefyd, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 78 o Ddeddf 2002.

Pan fydd y cwmni RTM wedi rhoi hysbysiad yn gwahodd tenantiaid i gymryd rhan, mae’n cael gwneud hawliad i gaffael yr hawl i reoli. Mae’n ofynnol i’r hawliad gael ei wneud drwy gyfrwng hysbysiad (“hysbysiad hawlio”), sef hysbysiad sy’n gorfod cael ei roi i bob person

(a)     sy’n landlord o dan brydles ar y cyfan neu unrhyw ran o’r fangre y mae’r hysbysiad yn ymwneud â hi;

(b)     sy’n barti i brydles o’r fath heblaw fel landlord neu denant; neu

(c)     sy’n rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â’r fangre, neu ag unrhyw fangre sy’n cynnwys y fangre neu a gynhwysir ynddi.

Mae rheoliad 4, y mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys yr hysbysiad hawlio, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 80 o Ddeddf 2002.

Caiff person sy’n cael hysbysiad hawlio ymateb drwy roi gwrth-hysbysiad i’r cwmni RTM, sef gwrth-hysbysiad y bydd hawliad y cwmni RTM naill ai yn cael ei addef neu yn cael ei wrthwynebu ynddo. Mae Rheoliad 5, y mae Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn hefyd yn berthnasol iddo, yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys y gwrth-hysbysiad. Mae’r rhain yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 84 o Ddeddf 2002.

Os yw person sydd â hawlogaeth i gael hysbysiad hawlio hefyd yn barti i gontract y mae’r parti arall i’r contract yn cytuno i ddarparu gwasanaethau odano, neu’n cytuno i wneud pethau eraill odano, mewn cysylltiad ag unrhyw fater sy’n ymwneud â swyddogaeth a fydd yn swyddogaeth i’r cwmni RTM pan fydd wedi caffael yr hawl i reoli’r fangre, mae’n rhaid i’r person hwnnw roi hysbysiad i’r parti arall i’r contract (“hysbysiad contractiwr”) ac i’r cwmni RTM (“hysbysiad contract”). Mae Rheoliadau 6 a 7, y mae Atodlenni 4 a 5 yn y drefn honno yn gymwys iddynt yn rhagnodi gofynion ynglŷn â chynnwys hysbysiadau contractiwr a hysbysiadau contract, yn ychwanegol at y gofynion a bennwyd yn adran 92 o Ddeddf 2002.

Mae Rheoliad 8 yn cyflwyno’r Atodlenni sy’n darparu templedi o ffurflenni ar gyfer y gwahoddiad i gymryd rhan, yr hysbysiad hawlio, y gwrth-hysbysiad, yr hysbysiad contractiwr a’r hysbysiad contract. Mae Rheoliad 8 yn caniatáu i ffurflenni sydd â’r un effaith gael eu defnyddio, ar yr amod eu bod yn cynnwys y manylion rhagnodedig perthnasol.

 

 

 


2011 Rhif 2684 (Cy. 287)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011

Wedi’u gwneud                   5 Tachwedd 2011

Wedi’u gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru  8 Tachwedd 2011

Yn dod i rym                     30 Tachwedd 2011

Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 78(2)(d) a (3), 80(8) a (9), 84(2), 92(3) a (7) a 178 (1) (a), (b), (c) a 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002([1]) ac adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993([2]) ac sydd bellach wedi’u breinio ynddynt hwy([3]).

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 a deuant i rym ar 30 Tachwedd 2011.

(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran mangreoedd yng Nghymru.

Dehongli

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;

ystyr “landlord”, (“landlord”) o ran mangre RTM, yw person sy’n landlord o dan brydles ar y cyfan o’r fangre neu unrhyw ran ohoni([4]);

ystyr “mangre RTM” (“RTM premises”) yw mangre y mae cwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) yn bwriadu caffael yr hawl i reoli mewn perthynas â hi([5]);

ystyr “trydydd parti” (“third party”), mewn perthynas â mangre RTM, yw person sy’n barti i brydles ar y cyfan o’r fangre neu unrhyw ran ohoni heblaw fel landlord neu denant([6]).

Cynnwys ychwanegol yr hysbysiad sy’n gwahodd cymryd rhan

3.—(1) Rhaid i hysbysiad sy’n gwahodd cymryd rhan gynnwys, yn ychwanegol at y datganiadau a’r wybodaeth y cyfeirir atynt yn adran 78(2)(a) i (c) o Ddeddf 2002 (hysbysiad yn gwahodd cymryd rhan), y manylion a grybwyllir ym mharagraff (2).

(2) Dyma’r manylion y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—

(a)     rhif cofrestredig y cwmni RTM([7]), cyfeiriad ei swyddfa gofrestredig ac enwau ei gyfarwyddwyr ac, os yw hynny’n gymwys, enw ei ysgrifennydd;

(b)     enw’r landlord ac enw unrhyw drydydd parti;

(c)     datganiad y bydd y cwmni RTM, yn ddarostyngedig i’r eithriadau a grybwyllir yn is-baragraff (d), yn gyfrifol am y canlynol, os bydd y cwmni’n caffael yr hawl i reoli—

                           (i)    cyflawni dyletswyddau’r landlord o dan y brydles; a

                         (ii)    arfer pwerau’r landlord o dan y brydles,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli;

(ch) datganiad y caiff y cwmni RTM orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo, yn ddarostyngedig i’r eithriad a grybwyllir yn is-baragraff (d)(ii), os bydd y cwmni’n caffael yr hawl i reoli([8]);

(d)     datganiad na fydd y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, yn gyfrifol am gyflawni dyletswyddau’r landlord nac am arfer pwerau’r landlord o dan y brydles—

                           (i)    ynglŷn â mater sy’n ymwneud yn unig â rhan o’r fangre sy’n fflat neu’n uned arall nad yw’n ddarostyngedig i brydles sy’n cael ei dal gan denant cymwys([9]); neu

                         (ii)    ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;

(dd) datganiad y bydd gan y cwmni RTM, os bydd yn caffael yr hawl i reoli, swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf 2002;

(e)     datganiad bod y cwmni RTM yn bwriadu neu, yn ôl fel y digwydd, nad yw’n bwriadu, penodi asiant rheoli; ac—

                           (i)    os yw yn bwriadu gwneud hynny, datganiad—

(aa)        o enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig (os ydynt yn hysbys); a

(bb)       os yw hyn yn wir, mai’r person yw asiant rheoli’r landlord; neu

                         (ii)    os nad yw’n bwriadu gwneud hynny, y cymwysterau neu’r profiad (os oes rhai) sydd gan aelodau presennol y cwmni RTM mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl;

(f)      datganiad y gall person sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o’r cwmni RTM fod yn atebol am gostau a dynnwyd gan y landlord ac eraill o ganlyniad i’r hysbysiad, os bydd y cwmni’n rhoi hysbysiad hawlio([10]);

(ff) datganiad sy’n cynghori’r sawl sy’n cael yr hysbysiad (yn gwahodd cymryd rhan) i geisio cymorth proffesiynol os nad yw’n llwyr ddeall diben neu oblygiadau’r hysbysiad; ac

(g)     yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i’r ffurflen a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad hawlio

4. Yn ychwanegol at y manylion sy’n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) (cynnwys hysbysiad hawlio) o Ddeddf 2002, rhaid i hysbysiad hawlio gynnwys—

(a)     datganiad bod person—

                           (i)    nad yw’n dadlau â hawlogaeth y cwmni RTM i gaffael yr hawl i reoli([11]); a

                         (ii)    sy’n barti rheoli o dan gontract rheoli([12]) sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad a bennir yn yr hysbysiad hawlio,

yn gorfod rhoi hysbysiad, yn unol ag adran 92 o Ddeddf 2002 (dyletswyddau i roi hysbysiad o gontractau), i’r cwmni RTM ac i’r person sy’n barti contractiwr([13]);

(b)     datganiad bod gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu unrhyw ran o’r fangre y mae’r hysbysiad hawlio yn berthnasol iddi hawlogaeth i fod yn aelodau o’r cwmni RTM o’r dyddiad caffael([14]) ymlaen;

(c)     datganiad nad yw’r hysbysiad wedi’i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy’n ofynnol o dan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu’r rheoliad hwn, ond y caiff person sydd o’r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir—

                           (i)    nodi’r manylion dan sylw i’r cwmni RTM a roddodd yr hysbysiad; a

                         (ii)    dangos ym mha fodd y bernir eu bod yn anghywir;

(ch) datganiad sy’n cynghori person sy’n cael yr hysbysiad ond nad yw’n llwyr ddeall diben yr hysbysiad i geisio cymorth proffesiynol; a

(d)    yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i’r ffurflen a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol gwrth-hysbysiad

5. Rhaid i wrth-hysbysiad gynnwys (yn ychwanegol at y datganiad y cyfeirir ato yn adran 84(2)(a) a (b) (gwrth-hysbysiadau) o Ddeddf 2002)—

(a)     datganiad y caiff y cwmni RTM, os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy’n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am benderfyniad bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad o hawliad, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio;

(b)     datganiad nad yw’r cwmni RTM, os yw wedi cael un gwrth-hysbysiad neu fwy sy’n cynnwys datganiad a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf 2002, yn caffael yr hawl i reoli’r fangre a bennwyd yn yr hysbysiad hawlio oni bai—

                           (i)    y penderfynir yn derfynol([15]) pan wneir cais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre; neu

                         (ii)    bod y person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu’r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno, mewn ysgrif, fod gan y cwmni yr hawlogaeth honno; ac

(c)     yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i’r ffurflen a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contractiwr

6.—(1) Rhaid i hysbysiad contractiwr([16]) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(3)(a) i (d) (dyletswyddau i roi hysbysiadau o gontractau) o Ddeddf 2002) ddatganiad yn cynghori’r person y rhoddir yr hysbysiad iddo i gysylltu â’r cwmni RTM yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad os yw’n dymuno darparu i’r cwmni RTM wasanaethau y mae wedi’u darparu, fel y parti contractiwr i’r parti rheolwr o dan y contract; a

(2) yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i’r ffurflen a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn.

Cynnwys ychwanegol hysbysiad contract

7. Rhaid i hysbysiad contract([17]) gynnwys (yn ychwanegol at y manylion y cyfeirir atynt yn adran 92(7)(a) o Ddeddf 2002)—

(a)     cyfeiriad y person sy’n barti contractiwr, neu’n barti is-gontractiwr([18]), o dan y contract y rhoddir manylion amdano yn yr hysbysiad;

(b)    datganiad sy’n cynghori’r cwmni RTM y dylai gysylltu â’r parti contractiwr, neu’r parti is-gontractiwr, yn y cyfeiriad a roddir yn yr hysbysiad, os yw’n dymuno defnyddio’r gwasanaethau y mae’r parti contractiwr, neu’r parti is-gontractiwr, wedi’u darparu i’r parti rheolwr o dan y contract hwnnw; ac

(c)    yr wybodaeth a ddarperir yn y nodiadau i’r ffurflen a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn.

Ffurf yr hysbysiadau

8.—(1) Rhaid i hysbysiadau sy’n gwahodd cymryd rhan fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â’r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y’u nodir yn rheoliad 3.

(2) Rhaid i hysbysiadau hawlio fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â’r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y’u nodir yn rheoliad 4.

(3) Rhaid i wrth-hysbysiadau fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i’r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â’r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y’u nodir yn rheoliad 5.

(4) Rhaid i hysbysiadau contractiwr fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i’r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â’r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y’u nodir yn rheoliad 6.

(5) Rhaid i hysbysiadau contract fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i’r Rheoliadau hyn neu mewn ffurf sydd â’r un effaith ar yr amod ei bod yn cynnwys yr holl fanylion rhagnodedig fel y’u nodir yn rheoliad 7.

Dirymu a darpariaethau trosiannol

9.—(1) Mae Rheoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurf Rhagnodedig) (Cymru) 2004([19]) (“Rheoliadau 2004”) wedi’u dirymu.

(2) Trinnir unrhyw hysbysiad a gyflwynir o dan Reoliadau 2004 ar y dyddiad y daw’r Rheoliadau hyn i rym neu ar ôl hynny fel pe bai wedi’i gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn.

 

 

 

Huw Lewis

 

Y Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, un o Weinidogion Cymru

 

5 Tachwedd 2011

 



ATODLEN 1 : SCHEDULE 1

 

Rheoliadau 3 ac 8(1)

 

Regulations 3 and 8(1)

 

 

 

 

 

FFURF HYSBYSIAD YN GWAHODD CYMRYD RHAN

FORM OF NOTICE OF INVITATION TO PARTICIPATE

 

 

 

 

 

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

COMMONHOLD AND LEASEHOLD REFORM ACT 2002

 

 

 

 

 

Hysbysiad o wahoddiad i gymryd rhan yn yr hawl i reoli

Notice of invitation to participate in right to manage

 

“At

 

“To

 

[enw a chyfeiriad] (Gweler Nodyn 1 isod)

[name and address] (See Note 1 below)

 

 

 

 

1. Mae

1.

 

[enw’r cwmni RTM]

[Name of RTM company]

 

 

(“y cwmni”), sy’n gwmni preifat cyfyngedig drwy warant, o

 

 

(“the company”), a private company limited by guarantee,of

 

 

[cyfeiriad y swyddfa gofrestredig]

[address of registered office]

 

rhif cofrestredig

 

 

and of which the registered number is

 

[y rhif o dan Ddeddf Cwmnïau 2006]

[number under Companies Act 2006]

 

 

wedi ei awdurdodi gan ei erthyglau cymdeithasu i gaffael ac arfer yr hawl i reoli

 

is authorised by its articles of association to acquire and exercise the right to manage

 

 

[enw’r fangre y mae’r hysbysiad yn berthnasol iddi] (“y fangre”).

 

[name of premises to which notice relates] (“the premises”).

 

2. Mae’r cwmni yn bwriadu caffael yr hawl i reoli’r fangre.

 

 

2. The company intends to acquire the right to manage the premises.

 

Naill ai

 

Either

 

3.1 Mae erthyglau cymdeithasu’r cwmni yn dod gyda’r hysbysiad hwn.

 

3.1 The company’s articles of association, accompany this notice.


 

Ydyw. Ticiwch os yw hynny’n gywir ac ewch i baragraff 4 (gweler Nodyn 2 isod)

 

Yes. Tick if this is the case and proceed to paragraph 4 (See Note 2 below)

 

 

 

Neu

 

Or

 

3.2 Cewch archwilio erthyglau cymdeithasu’r cwmni, yn unol â’r trefniadau yn y paragraff canlynol.

 

3.2 The company’s articles of association, may be inspected in accordance with the arrangements in the following paragraph.

Cewch. [Ticiwch os yw’r datganiad uchod yn gymwys a chwblhewch weddill y paragraff 3 hwn.] (Gweler Nodyn 2)

 

 

Yes. [Tick if the statement above applies and complete the remainder of this paragraph 3.] (See Note 2)

 

3.2.1 Yn

3.2.1 At

 

 

 

[cyfeiriad ar gyfer yr archwiliad]

 

[address for inspection]

3.2.2 rhwng

 

3.2.2 between

 

 

 

 

[nodwch yr amserau]. (Gweler Nodyn 3 isod)

 

 

[specify times]. (See Note 3 below)

 

3.2.3 Ar unrhyw adeg o fewn y cyfnod o saith diwrnod gan ddechrau ar y diwrnod ar ôl i’r hysbysiad hwn gael ei roi, gellir archebu copi o’r erthyglau cymdeithasu oddi wrth

 

3.2.3 At any time within the period of seven days beginning with the day after this notice is given, a copy of the articles of association may be ordered from

 

[nodwch y cyfeiriad]

 

[specify address]

3.2.4 drwy dalu

 

3.2.4 on payment of

 

 

 

 

[nodwch y ffi]. (Gweler Nodyn 4 isod)

 

[specify fee]. (See Note 4 below)

 

 

 

 

 

 

4. Nodir enwau—

(a) aelodau’r cwmni;

(b) cyfarwyddwyr y cwmni; ac

(c) os oes gan y cwmni ysgrifennydd, enw’r person hwnnw

yn yr Atodlen isod.

 

 

4.The names of—

(a) the members of the company;

(b) the company’s directors; and

(c) if the company has a secretary, the name of that person

are set out in the Schedule below.

 

 

 

 

 

 

 

5. Enwau’r landlord a’r person (os oes un) sy’n barti i brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre heblaw fel landlord neu denant yw:

 

 

5. The names of the landlord and of the person (if any) who is party to a lease of the whole or any part of the premises otherwise than as landlord or tenant are:

 


 

[nodwch]

 

[specify]

 

 

 

 

 

 

6. Yn ddarostyngedig i’r eithriadau a grybwyllir ym mharagraff 8, os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, bydd y cwmni’n gyfrifol am—

(a) cyflawni dyletswyddau’r landlord o dan y brydles; a

(b) arfer ei bwerau o dan y brydles,

o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli.

 

6. Subject to the exclusions mentioned in paragraph 8, if the right to manage is acquired by the company, the company will be responsible for—

(a) the discharge of the landlord’s duties under the lease; and

(b) the exercise of his or her powers under the lease,

with respect to services, repairs, maintenance, improvements, insurance and management.

 

 

 

 

 

 

7. Yn ddarostyngedig i’r eithriad a grybwyllir ym mharagraff 8(b), os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, caiff y cwmni orfodi cyfamodau tenant na chawsant eu trosglwyddo. (Gweler Nodyn 5 isod)

 

7. Subject to the exclusion mentioned in paragraph 8(b), if the right to manage is acquired by the company, the company may enforce untransferred tenant covenants. (See Note 5 below)

 

 

 

 

 

 

8. Os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, ni fydd y cwmni’n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau’r landlord nac arfer ei bwerau o dan y brydles—

(a) ynglŷn â mater sy’n ymwneud yn unig â rhan o’r fangre sy’n fflat neu’n uned arall nad yw’n ddarostyngedig i brydles sy’n cael ei dal gan denant cymwys; neu

(b) ynglŷn ag ailfynediad neu fforffediad;

 

8. If the right to manage is acquired by the company, the company will not be responsible for the discharge of the landlord’s duties or the exercise of his or her powers under the lease—

(a) with respect to a matter concerning only a part of the premises consisting of a flat or other unit not subject to a lease held by a qualifying tenant; or

(b) relating to re-entry or forfeiture.

 

 

 

 

 

 

9. Os bydd y cwmni yn caffael yr hawl i reoli, bydd gan y cwmni swyddogaethau o dan y darpariaethau statudol y cyfeirir atynt yn Atodlen 7 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002. (Gweler Nodyn 6 isod)

 

9. If the right to manage is acquired by the company, the company will have functions under the statutory provisions referred to in Schedule 7 to the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002. (See Note 6 below)

 

 

 

Naill ai –

 

Either

 

 

 

9.1 Mae’r cwmni yn bwriadu penodi asiant rheoli yn yr ystyr sydd i “managing agent” yn adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.

 

9.1 The company intends to appoint a managing agent within the meaning of section 30B(8) of the Landlord and Tenant Act 1985.


 

Ydyw. Ticiwch os yw’r datganiad uchod yn gymwys. Os ydych yn ticio’r blwch hwn, ewch i baragraff 9.2. Os nad ydych yn ticio’r blwch hwn, ewch i baragraff 9.4.

 

Yes. Tick if the statement above applies. If you tick this box, proceed to paragraph 9.2. If you do not tick this box, proceed to paragraph 9.4.

 

 

 

9.2 Os yw’n hysbys, rhowch enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig isod. Ewch i baragraff 9.3.

 

9.2 If known, give the name and address of the proposed managing agent below. Proceed to paragraph 9.3.

 

[Enw a chyfeiriad yr asiant rheoli arfaethedig]

 

[Name and address of the proposed managing agent]

 

 

 

9.3 Y person a enwir ym mharagraff 9.2 uchod yw’r asiant rheoli ar hyn o bryd.

 

9.3 The person named in paragraph 9.2 above is the current managing agent.

Ie. Ticiwch os yw’r datganiad uchod yn gymwys. Ewch i baragraff 10 p’un a yw’r datganiad uchod yn gymwys ai peidio.

 

Yes. Tick if the statement above applies. Proceed to paragraph 10 whether or not the statement above applies.

 

 

 

Neu

 

Or

 

 

 

9.4 Nid yw’r cwmni yn bwriadu penodi asiant rheoli o fewn ystyr adran 30B(8) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985.

 

9.4  The company does not intend to appoint a managing agent within the meaning of section 30B(8) of the Landlord and Tenant Act 1985.

Cywir. Ticiwch os yw’r datganiad uchod yn gymwys.  [Os oes gan unrhyw aelod presennol o’r cwmni gymwysterau neu brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl, rhowch y manylion ym mharagraff 4 o’r Atodlen isod.]

 

Yes. Tick if the statement above applies [If any existing member of the company has qualifications or experience in relation to the management of residential property, give details in paragraph 4 of the Schedule below.]

 

 

 

 

 

 

10. Os yw’r cwmni yn rhoi hysbysiad o’i hawliad i gaffael yr hawl i reoli’r fangre (“hysbysiad hawlio”), gall person sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o’r cwmni fod yn atebol am gostau a dynnir gan y landlord ac eraill o ganlyniad i’r hysbysiad hawlio. (Gweler Nodyn 7 isod)

 

10.If the company gives notice of its claim to acquire the right to manage the premises (a “claim notice”), a person who is or has been a member of the company may be liable for costs incurred by the landlord and others in consequence of the claim notice. (See Note 7 below)

 

 

 

 

 

 

11. Gwahoddir chi i ddod yn aelod o’r cwmni. (Gweler Nodyn 8 isod)

 

11. You are invited to become a member of the company. (See Note 8 below)

 

 

 

 

 

 

12. Os nad ydych yn llwyr ddeall diben neu oblygiadau’r hysbysiad hwn, cynghorir chi i geisio cymorth proffesiynol.

 

12. If you do not fully understand the purpose or implications of this notice you are advised to seek professional help.

 

 

 

 

ATODLEN : SCHEDULE

 

1. Dyma enwau aelodau’r cwmni [nodwch enwau aelodau’r cwmni ]:

 

1. The names of the members of the company are [state names of company members]:

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2. Dyma enwau cyfarwyddwyr y cwmni: [nodwch enwau’r cyfarwyddwyr (os yw’n gymwys)]

 

 

2. The names of the company’s directors are:

[state director’s names (if applicable)]

 

 

 

 

 

3. Dyma enw ysgrifennydd y cwmni:

[enw ysgrifennydd y cwmni]

 

3. The name of the company’s secretary is:

[company secretary’s name]

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

[Os yw’n gymwys rhowch yr wybodaeth ganlynol.] (Gweler paragraff 9.4 uchod)

 

 

[If applicable  complete the following information.] (See paragraph 9.4 above)

 

4. Mae yr gan aelod[au] canlynol o’r cwmni gymwysterau neu brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl:

 

4. The following member[s] of the company [has][have] qualifications or experience in relation to the management of residential property:

 

(1)

 

 

(1)

 

[Enw’r aelod]

 

[Name of member]

 

 

[y cymhwyster mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl]

 

[qualification in relation to the management of residential property]

 

 


 

[Nifer o flynyddoedd o brofiad mewn perthynas â rheoli eiddo preswyl]

 

[Number of years experience in relation to the management of residential property]

 

 

[cyfeiriad[au] yr eiddo a’r dyddiadau pan gafwyd y profiad

 

[address[es] of [property][properties]and dates when experience acquired

 

 

 

 

 

 

(2) [ailadroddwch fel uchod yn ôl yr angen]

 

(2) [repeat as above as necessary]

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni,

 

Signed by authority of the company,

 

 

[Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig]

 

[Signature of authorised member or officer]

 

 

[Rhowch y dyddiad]

 

[Insert date]

 

 

 

 

 

 

 


NODIADAU : NOTES

 

1. Rhaid anfon yr hysbysiad sy’n gwahodd cymryd rhan at bob person sydd ar yr adeg y rhoddir yr hysbysiad yn denant cymwys fflat yn y fangre ond nad yw eisoes yn aelod o’r cwmni ac nad yw wedi cytuno i ddod yn aelod ohono. Diffinnir “qualifying tenant” (“tenant cymwys”) yn adran 75 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”).

 

1. The notice inviting participation must be sent to each person who is at the time the notice is given a qualifying tenant of a flat in the premises but who is not already, and has not agreed to become, a member of the company. A qualifying tenant is defined in section 75 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 (“the 2002 Act”).

 

 

 

2. Rhaid i’r hysbysiad naill ai (a) dod gyda chopi o erthyglau cymdeithasu’r cwmni RTM neu (b) cynnwys datganiad ynghylch archwilio a chopïo Erthyglau Cymdeithasu’r cwmni RTM sy’n rhoi’r wybodaeth a bennir ym mharagraff 3 o’r hysbysiad.

 

2. The notice must either (a) be accompanied by a copy of the articles of association of the RTM company or (b) include a statement about inspection and copying the Articles of Association of the RTM company giving the information specified in paragraph 3 of the notice.

 

 

 

3. Rhaid i’r amserau a nodir fod yn gyfnodau o 2 awr o leiaf ar bob un o 3 diwrnod o leiaf (gan gynnwys dydd Sadwrn neu ddydd Sul neu’r ddau) o fewn y 7 diwrnod sy’n dechrau drannoeth y diwrnod y rhoddir yr hysbysiad.

 

3. The specified times must be periods of at least 2 hours on each of at least 3 days (including a Saturday or Sunday or both) within the 7 days beginning with the day following that on which the notice is given.

 

 

 

4. Rhaid i’r cyfleuster archebu fod ar gael drwy’r cyfnod o 7 diwrnod y cyfeirir ato yn Nodyn 3. Rhaid i’r ffi beidio â bod yn fwy na chost resymol darparu’r copi a archebir.

 

4. The ordering facility must be available throughout the 7 day period referred to in Note 3. The fee must not exceed the reasonable cost of providing the ordered copy.

 

 

 

5. Cyfamod tenant na chafodd ei drosglwyddo yw cyfamod ym mhrydles tenant y mae’n rhaid iddo gydymffurfio ag ef, ond na ellir ei orfodi gan y cwmni ond yn rhinwedd adran 100 o Ddeddf 2002.

 

5. An untransferred tenant covenant is a covenant in a tenant’s lease that he must comply with, but which can be enforced by the company only by virtue of section 100 of the 2002 Act.

 

 

 

6. Mae’r swyddogaethau’n ymwneud â materion megis rhwymedigaethau trwsio, taliadau gweinyddu a thaliadau gwasanaeth, a’r wybodaeth sydd i’w throsglwyddo i denantiaid. Gellir cael y manylion oddi wrth y cwmni RTM.

 

6. The functions relate to matters such as repairing obligations, administration and service charges, and information to be furnished to tenants. Details may be obtained from the RTM company.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

7. Os caiff yr hysbysiad hawlio ei dynnu’n ôl ar unrhyw adeg, neu os bernir iddo gael ei dynnu’n ôl neu os yw’n peidio â bod yn effeithiol mewn ffordd arall, bydd pob person sydd neu sydd wedi bod yn aelod o’r cwmni yn atebol (ac eithrio yn yr amgylchiadau a grybwyllir ar ddiwedd y nodyn hwn) am y costau rhesymol a dynnwyd gan —

 

(a) y landlord,

(b) unrhyw berson sy’n barti i brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre heblaw fel landlord neu denant, neu

(c) rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â’r fangre, neu unrhyw fangre sy’n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre y mae’r hysbysiad hwn yn berthnasol iddi,

 

o ganlyniad i’r hysbysiad hawlio.

 

Mae aelod cyfredol neu aelod blaenorol o’r cwmni yn atebol ar y cyd â’r cwmni ac ar y cyd â phob person sy’n aelod neu sydd wedi bod yn aelod o’r cwmni, ac yn unigol. Er hynny, nid yw aelod blaenorol yn atebol os yw wedi aseinio’r brydles yr oedd yn denant cymwys o’i phlegid i berson arall a bod y person arall hwnnw wedi dod yn aelod o’r cwmni.

 

7. If the claim notice is at any time withdrawn, deemed to be withdrawn or otherwise ceases to have effect, each person who is or has been a member of the company is liable (except in the circumstances mentioned at the end of this note) for reasonable costs incurred by—

 

(a) the landlord,

(b) any person who is party to a lease of the whole or any part of the premises otherwise than as landlord or tenant, or

(c) a manager appointed under Part 2 of the Landlord and Tenant Act 1987 to act in relation to the premises to which this notice relates, or any premises containing or contained in the premises to which this notice relates,

 

 

in consequence of the claim notice.

 

A current or former member of the company is liable both jointly with the company and every other person who is or has been a member of the company, and individually. However, a former member is not liable if he has assigned the lease by virtue of which he was a qualifying tenant to another person and that other person has become a member of the company.

 

 

 

8. Mae gan holl denantiaid cymwys fflatiau yn y fangre hawl i ddod yn aelodau. Mae gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre hefyd hawl i fod yn aelodau, ond dim ond ar ôl i’r cwmni gaffael yr hawl i reoli. Gellir gwneud cais am aelodaeth yn unol ag erthyglau cymdeithasu’r cwmni, ac os nad ydynt gyda’r hysbysiad hwn, gellir eu harchwilio fel y crybwyllir ym mharagraff 3.2 o’r hysbysiad.

 

8. All qualifying tenants of flats contained in the premises are entitled to be members. Landlords under leases of the whole or any part of the premises are also entitled to be members, but only once the right to manage has been acquired by the company. An application for membership may be made in accordance with the company’s articles of association which, if they do not accompany this notice, may be inspected as mentioned in paragraph 3.2 of the notice.

 

 

 

9. Os bydd y cwmni’n caffael yr hawl i reoli, rhaid iddo adrodd i unrhyw berson sy’n landlord o dan brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre am unrhyw fethiant i gydymffurfio ag unrhyw gyfamod tenant yn y brydles oni bai, o fewn y cyfnod o dri mis yn dechrau ar y diwrnod y daw’r methiant i gydymffurfio i sylw’r cwmni—

(a) bod y methiant wedi cael ei gywiro,

(b) bod iawndal rhesymol wedi cael ei dalu mewn perthynas â’r methiant, neu

(c) bod y landlord wedi hysbysu’r cwmni nad oes angen i’r cwmni adrodd iddo am fethiannau o’r math sydd o dan sylw.

 

9. If the right to manage is acquired by the company, the company must report to any person who is landlord under a lease of the whole or any part of premises any failure to comply with any tenant covenant of the lease unless, within the period of three months beginning with the day on which the failure to comply comes to the attention of the company—

(a) the failure has been remedied,

(b) reasonable compensation has been paid in respect of the failure, or

(c) the landlord has notified the company that it need not report to him failures of the description of the failure concerned.

 

 

 

10. Os yw’r cwmni’n caffael yr hawl i reoli, daw swyddogaethau rheoli person sy’n barti i brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre heblaw fel landlord neu denant yn swyddogaethau i’r cwmni. Bydd y cwmni’n gyfrifol am gyflawni dyletswyddau’r person hwnnw o dan y brydles ac am arfer ei bwerau o dan y brydles, o ran gwasanaethau, trwsio, cynnal a chadw, gwelliannau, yswiriant a rheoli. Er hynny, ni fydd y cwmni’n gyfrifol am faterion sy’n ymwneud yn unig â rhan o’r fangre sy’n fflat neu’n uned arall nad yw’n ddarostyngedig i brydles sy’n cael ei dal gan denant cymwys, neu sy’n ymwneud ag ailfynediad neu fforffediad.

 

10. If the right to manage is acquired by the company, management functions of a person who is party to a lease of the whole or any part of the premises otherwise than as landlord or tenant will become functions of the company. The company will be responsible for the discharge of that person’s duties under the lease and the exercise of his or her powers under the lease, with respect to services, repairs, maintenance, improvements, insurance and management. However, the company will not be responsible for matters concerning only a part of the premises consisting of a flat or other unit not subject to a lease held by a qualifying tenant, or relating to re-entry or forfeiture.

 

 

 

11. Os yw’r cwmni’n caffael yr hawl i reoli, bydd y cwmni’n gyfrifol am arfer y pwerau ynghylch rhoi cymeradwyaethau i denant o dan brydles, ond ni fydd yn gyfrifol am arfer y pwerau hynny ynghylch cymeradwyaeth sy’n ymwneud yn unig â rhan o’r fangre sy’n fflat neu’n uned arall nad yw’n ddarostyngedig i brydles sy’n cael ei dal gan denant cymwys.

 

11. If the right to manage is acquired by the company, the company will be responsible for the exercise of the powers relating to the grant of approvals to a tenant under the lease, but will not be responsible for the exercise of those powers in relation to an approval concerning only a part of the premises consisting of a flat or other unit not subject to a lease held by a qualifying tenant.

 


ATODLEN 2 : SCHEDULE 2

 

Rheoliadau 4 ac 8(2)

 

Regulations 4 and 8(2)

 

 

 

FFURF HYSBYSIAD HAWLIO

FORM OF CLAIM NOTICE

 

 

 

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

COMMONHOLD AND LEASEHOLD REFORM ACT 2002

 

 

 

Hysbysiad Hawlio

Claim Notice

 

 

 

 

 

 

At [Enw a chyfeiriad] (Gweler Nodyn 1 isod)

 

To [Name and address] (See Note 1 below)

1. Mae

 

1.

 

[enw’r cwmni RTM]

 

[name of RTM company]

(“y cwmni”), o

 

 

(“the company”), of

 

 

[cyfeiriad y swyddfa gofrestredig]

 

[address of registered office]

 

 

 

rhif cofrestru

 

 

and of which the registered number is

 

 

[y rhif o dan Ddeddf Cwmnïau 2006]

 

[number under Companies Act 2006]

yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”) yn hawlio caffael yr hawl i reoli

 

 

in accordance with Chapter 1 of Part 2 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 (“the 2002 Act”) claims to acquire the right to manage

 

 

[enw’r fangre y mae’r hysbysiad yn berthnasol iddi]

 

[name of premises to which notice relates]

 

 

 

(“y fangre”).

 

(“the premises”).

 

 

 

 

 

 

2. Mae’r cwmni’n hawlio bod y fangre yn fangre y mae Pennod 1 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddi ar y sail [nodwch y sail] (Gweler Nodyn 2 isod)

 

 

2. The company claims that the premises are ones to which Chapter 1 of the 2002 Act applies on the grounds that [state grounds] (See Note 2 below)

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3. Ceir enwau llawn pob person sydd—

(a) yn denant cymwys fflat sydd yn y fangre, yn ogystal â bod

(b) yn aelod o’r cwmni,

 

a chyfeiriad fflat y person hwnnw yn Rhan 1 o’r Atodlen isod.

 

3. The full names of each person who is both—

(a) the qualifying tenant of a flat contained in the premises; and

(b) a member of the company,

 

and the address of that person’s flat are set out in Part 1 of the Schedule below.

 

 

 

 

 

 

4. Nodir yn Rhan 2 o’r Atodlen, mewn perthynas â phob person a enwir yn Rhan 1 o’r Atodlen—

(a) y dyddiad yr ymrwymwyd yn ei brydles,

(b) cyfnod y brydles,

(c) dyddiad cychwyn y cyfnod

*(ch) unrhyw fanylion eraill am brydles y person hwnnw sy’n angenrheidiol i’w dynodi.

 

*caniateir anwybyddu (ch) os nad oes angen rhoi manylion eraill.

 

4. There are set out, in Part 2 of the Schedule, in relation to each person named in Part 1 of the Schedule—

(a) the date on which that person’s lease was entered into;

(b) the term for which it was granted;

(c) the date of commencement of the term

*(d) such other particulars of that person’s lease as are necessary to identify it.

 

*(d) may be ignored if no other particulars need to be given.

 

 

 

 

 

 

5. Os ydych—

(a) yn landlord o dan brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre;

(b) yn barti i brydles o’r fath heblaw fel landlord neu denant; neu

(c) yn rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â’r fangre; neu ag unrhyw fangre sy’n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre,

 

cewch ymateb i’r hysbysiad hawlio hwn drwy roi gwrth-hysbysiad o dan adran 84 o Ddeddf 2002. Rhaid i wrth-hysbysiad fod yn y ffurf a nodir yn Atodlen 3 i Reoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011. Rhaid ei roi i’r cwmni, yn y cyfeiriad ym mharagraff 1, heb fod yn hwyrach na

 

 

5. If you are—

(a) landlord under a lease of the whole or any part of the premises;

(b) party to such a lease otherwise than as landlord or tenant; or

(c) a manager appointed under Part 2 of the Landlord and Tenant Act 1987 to act in relation to the premises; or any premises containing or contained in the premises,

 

you may respond to this claim notice by giving a counter-notice under section 84 of the 2002 Act. A counter-notice must be in the form set out in Schedule 3 to the Right to Manage (Prescribed Particulars and Forms) (Wales) Regulations 2011. It must be given to the company, at the address in paragraph 1, not later than

 

[nodwch ddyddiad heb fod yn gynharach nag un mis ar ôl y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad hawlio.]

 

[specify date not earlier than one month after the date on which the claim notice is given.

 

Os nad ydych yn llwyr ddeall diben neu oblygiadau’r hysbysiad hwn, cynghorir chi i geisio cymorth proffesiynol.

 

 

If you do not fully understand the purpose or implications of this notice you are advised to seek professional help.


 

6. Mae’r cwmni’n bwriadu caffael yr hawl i reoli’r fangre ar

 

 

6. The company intends to acquire the right to manage the premises on

 

 

[nodwch y dyddiad, sef o leiaf dri mis ar ôl y dyddiad a nodir ym mharagraff 5].

 

[specify date, being at least three months after that specified in paragraph 5.]

 

 

 

 

 

 

7. Os ydych yn berson y mae paragraff 5 yn gymwys iddo ac—

(a) nad ydych yn dadlau â hawlogaeth y cwmni i gaffael yr hawl i reoli; a

(b) chi yw’r parti rheolwr o dan gontract rheoli sy’n bodoli yn union cyn y dyddiad a nodir yn yr hysbysiad hwn,

 

rhaid i chi, yn unol ag adran 92 (dyletswyddau i roi hysbysiadau am gontractau) o Ddeddf 2002, roi hysbysiad mewn perthynas â’r contract i’r person sy’n barti contractiwr mewn perthynas â’r contract ac i’r cwmni. (Gweler Nodyn 3 isod).

 

7. If you are a person to whom paragraph 5 applies and—

(a) you do not dispute the company’s entitlement to acquire the right to manage; and

(b) you are the manager party under a management contract subsisting immediately before the date specified in this notice,

 

you must, in accordance with section 92 (duties to give notice of contracts) of the 2002 Act, give a notice in relation to the contract to the person who is the contractor party in relation to the contract and to the company. (See Note 3 below).

 

 

 

 

 

 

8. O’r dyddiad pan fydd y cwmni’n caffael yr hawl i reoli’r fangre, mae gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre yr hawl i fod yn aelodau o’r cwmni (Gweler Nodyn 4 isod).

 

8. From the date on which the company acquires the right to manage the premises, landlords under leases of the whole or any part of the premises are entitled to be members of the company (See Note 4 below).

 

 

 

 

 

 

9. Nid yw’r hysbysiad hwn wedi’i annilysu gan unrhyw anghywirdeb mewn unrhyw fanylion sy’n ofynnol gan adran 80(2) i (7) o Ddeddf 2002 neu reoliad 4 o Reoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011. Os ydych o’r farn bod unrhyw fanylion sydd yn yr hysbysiad hawlio yn anghywir, cewch hysbysu’r cwmni o’r manylion o dan sylw, gan nodi ym mha fodd yr ydych o’r farn eu bod yn anghywir.

 

9. This notice is not invalidated by any inaccuracy in any of the particulars required by section 80(2) to (7) of the 2002 Act or regulation 4 of the Right to Manage (Prescribed Particulars and Forms) (Wales) Regulations 2011. If you are of the opinion that any of the particulars contained in the claim notice are inaccurate you may notify the company of the particulars in question, indicating the respects in which you think that they are inaccurate.

ATODLEN : SCHEDULE

RHAN 1 : PART 1

 

Enwau llawn a chyfeiriadau llawn y personau sy’n denantiaid cymwys yn ogystal â bod yn aelodau o’r cwmni

[nodwch yma y manylion sy’n ofynnol o dan baragraff 3 uchod]

 

 

Full names and addresses of persons who are both qualifying tenants and members of the company

[set out here the particulars required by paragraph 3 above]

 

 

RHAN 2 : PART 2

 

Manylion prydlesau’r personau a enwir yn Rhan 1

Particulars of leases of persons named in Part 1

 

[Nodwch yn y tabl hwn y manylion sy’n ofynnol o dan baragraff 4 uchod ac ailadroddwch yn ôl yr angen ar gyfer pob person a enwir yn yr Atodlen]

 

 

[Set out in this table the particulars required by paragraph 4 above] and repeat as necessary for each person named in the Schedule]

 

[Enw’r person y cyfeirir ato yn Rhan 1 o’r Atodlen hon]

 

 

[Name of person referred to in Part 1 of this Schedule]

 

[y dyddiad yr ymrwymwyd yn y brydles]

 

 

[date on which lease was entered into]

 

[cyfnod o flynyddoedd y brydles]

 

 

[term of years for which lease was granted]

 

[dyddiad cychwyn y cyfnod]

 

 

[date of commencement of term]

 

[unrhyw fanylion eraill y mae eu hangen er mwyn dynodi’r brydles. Ni ddylid llenwi’r adran hon os yw’n bosibl dynodi’r brydles oddi wrth weddill yr wybodaeth a roddir yn y tabl hwn]

 

 

[such other particulars as are necessary to identify the lease. This section should not be completed if it is possible to identify the lease from the remainder of the information in this table]

 

 

 

 

Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni,

 

Signed by authority of the company,

 

 

[Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig]

 

[Signature of authorised member or officer]

 

 

[Rhowch y dyddiad]

 

[Insert date]

 

NODIADAU : NOTES

 

1. Rhaid rhoi hysbysiad hawlio (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i Reoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011 o hawliad i arfer yr hawl i reoli mangre benodedig) i bob person sydd, ar y dyddiad y rhoddir yr hysbysiad —

(a) yn landlord o dan brydles ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre y mae’r hysbysiad yn berthnasol iddi,

(b) yn barti i brydles o’r fath heblaw fel landlord neu denant, neu

(c) yn rheolwr a benodwyd o dan Ran 2 o Ddeddf Landlord a Thenant 1987 i weithredu mewn perthynas â’r fangre, neu ag unrhyw fangre sy’n cynnwys neu a gynhwysir yn y fangre.

 

 

Ond nid oes angen rhoi hysbysiad i berson o’r fath os na ellir dod o hyd iddo, neu os na ellir dynodi pwy ydyw. Os yw hynny’n golygu nad oes neb y mae’n rhaid rhoi’r hysbysiad iddo, caiff y cwmni wneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad am orchymyn bod y cwmni i gaffael yr hawl i reoli’r fangre. Yn yr achos hwnnw, bydd y gweithdrefnau a bennir yn adran 85 o Ddeddf 2002 (landlordiaid etc. na ellir eu holrhain) yn gymwys.

 

1. A claim notice (a notice in the form set out in Schedule 2 to the Right to Manage (Prescribed Particulars and Forms) (Wales) Regulations 2011 of a claim to exercise the right to manage specified premises) must be given to each person who, on the date on which the notice is given, is—

(a) landlord under a lease of the whole or any part of the premises to which the notice relates,

(b) party to such a lease otherwise than as landlord or tenant, or

(c) a manager appointed under Part 2 of the Landlord and Tenant Act 1987 to act in relation to the premises, or any premises containing or contained in the premises.

 

But notice need not be given to such a person if that person cannot be found, or if that person’s identity cannot be ascertained. If that means that there is no one to whom the notice must be given, the company may apply to a leasehold valuation tribunal for an order that the company is to acquire the right to manage the premises. In that case, the procedures specified in section 85 of the 2002 Act (landlords etc. not traceable) will apply.

 

 

 

2. Ceir y darpariaethau perthnasol yn adran 72 o Ddeddf 2002 (mangre y mae Pennod 1 yn gymwys iddynt). Cynghorir y cwmni i ystyried, yn benodol, Atodlen 6 i Ddeddf 2002 (mangre a eithrir o Bennod 1).

 

2. The relevant provisions are contained in section 72 of the 2002 Act (premises to which Chapter 1 applies). The company is advised to consider, in particular, Schedule 6 to the 2002 Act (premises excepted from Chapter 1).

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3. Diffinnir y termau “management contract”, “manager party” a “contractor party” yn adran 91(2) o Ddeddf 2002 (hysbysiadau ynghylch contractau rheoli).

 

3. The terms “management contract”, “manager party” and “contractor party” are defined in section 91(2) of the 2002 Act (notices relating to management contracts).

 

 

 

4. Mae gan landlordiaid o dan brydlesau ar y cyfan neu ar unrhyw ran o’r fangre hawl i fod yn aelodau o’r cwmni, ond dim ond ar ôl i’r cwmni gaffael yr hawl i reoli. Gellir gwneud cais am aelodaeth yn unol ag erthyglau cymdeithasu’r cwmni, y gellir eu harchwilio yn swyddfa gofrestredig y cwmni, yn ddi-dâl, ar unrhyw adeg resymol.

 

4. Landlords under leases of the whole or any part of the premises are entitled to be members of the company, but only once the right to manage has been acquired by the company. An application for membership may be made in accordance with the company’s articles of association, which may be inspected at the company’s registered office, free of charge, at any reasonable time.

 

 

 


 

ATODLEN 3 : SCHEDULE 3

Rheoliadau 5 ac 8(3)

Regulations 5 and 8(3)

 

 

FFURF GWRTH-HYSBYSIAD

FORM OF COUNTER-NOTICE

 

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

COMMONHOLD AND LEASEHOLD REFORM ACT 2002

 

Gwrth-hysbysiad

Counter-notice

 

At

 

To

 

[enw a chyfeiriad] (Gweler Nodyn 1 isod))

 

[name and address](See Note 1 below)

 

 

 

Naill ai

 

1.1 Yr wyf yn addef, ar

 

 

Either

 

1.1 I admit that, on

 

 

[rhowch y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad hawlio],

 

bod gan

 

 

[insert date on which claim notice was given],

 

 

[rhowch enw’r cwmni a roddodd yr hysbysiad hawlio]

 

[insert name of company by which claim notice was given]

(“y cwmni”) yr hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre a nodir yn yr hysbysiad hawlio.

 

 

(“the company”) was entitled to acquire the right to manage the premises specified in the claim notice.

 

Ydwyf. Ticiwch os yw’r datganiad uchod yn gymwys ac ewch i baragraff 2.

 

Yes. Tick if the statement above applies and proceed to paragraph 2.

 

 

 

Neu

 

1.2 Yr wyf yn honni, oherwydd

 

 

Or

 

1.2 I allege that, by reason of

 

 


 

[nodwch pa ddarpariaeth ym Mhennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 yr ydych yn dibynnu arni]

 

 

[specify provision of Chapter 1 of Part 2 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 relied on]

 

ar

 

on

 

[rhowch y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad hawlio] nad oedd gan

 

 

[insert date on which claim notice was given]

 

 

[rhowch enw’r cwmni a roddodd yr hysbysiad hawlio]

 

 

[insert name of company by which claim notice was given]

 

(“y cwmni”) yr hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre a nodir yn yr hysbysiad hawlio.

 

(“the company”) was not entitled to acquire the right to manage the premises specified in the claim notice.

Ydwyf. [Ticiwch os yw’r datganiad ym mharagraff 1.2 yn gymwys.]

 

Yes. [Tick if the statement in paragraph 1.2 applies.]

 

 

 

 

 

 

2. Os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy’n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, caiff y cwmni gyflwyno cais i dribiwnlys prisio lesddaliad iddo benderfynu bod gan y cwmni, ar y dyddiad y rhoddwyd yr hysbysiad hawlio, hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre a bennir yn yr hysbysiad hawlio (Gweler Nodyn 2 isod).

 

2. If the company has been given one or more counter-notices containing such a statement as is mentioned in section 84 (2) (b) of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002, the company may apply to a leasehold valuation tribunal for a determination that, on the date on which notice of the claim was given, the company was entitled to acquire the right to manage the premises specified in the claim notice (See Note 2 below).

 

 

 

 

 

 

3. Os cafodd y cwmni un gwrth-hysbysiad neu fwy sy’n cynnwys datganiad fel yr un a grybwyllir yn adran 84(2)(b) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002, nid yw’r cwmni’n caffael yr hawl i reoli’r fangre honno —

(a) oni phenderfynir yn derfynol ar gais i dribiwnlys prisio lesddaliad fod gan y cwmni hawlogaeth i gaffael yr hawl i reoli’r fangre; neu

(b) onid yw’r person a roddodd y gwrth-hysbysiad, neu’r personau a roddodd y gwrth-hysbysiadau, yn cytuno’n ysgrifenedig fod gan y cwmni yr hawlogaeth honmo. (Gweler Nodyn 3 isod)

 

3. If the company has been given one or more counter-notices containing such a statement as is mentioned in section 84(2)(b) of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002, the company does not acquire the right to manage those premises unless—

(a) on an application to a leasehold valuation tribunal, it is finally determined that the company was entitled to acquire the right to manage the premises; or

(b) the person by whom the counter-notice was given agrees, or the persons by whom the counter-notices were given agree, in writing that the company was so entitled. (See Note 3 below)


 

Naill ai

 

Either

Llofnodwyd:

 

 

Signed:

 

 

[Llofnod y person y cyflwynwyd yr hysbysiad hawlio iddo, neu asiant y person hwnnw. Os asiant sy’n llofnodi, nodwch hefyd ]

 

 

[Signature of person on whom claim notice served, or of agent of such person Where an agent signs, insert also .]

 

 

“Asiant awdurdodedig priodol

 

 

 

“Duly authorised agent of

 

 

[nodwch enw’r person y cyflwynwyd yr hysbysiad hawlio iddo]

 

[insert name of person on whom claim notice served]

 

 

 

Cyfeiriad:

 

Address:

 

[Rhowch y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ynghylch y pwnc hwn iddo]

 

 

[Give the address to which future communications relating to the subject-matter of the notice should be sent]

 

 

[Dyddiad]

 

 

[Date]

 

 

 

 

Neu

 

Or

 

 

 

Llofnodwyd drwy awdurdod y cwmni y rhoddir yr hysbysiad hwn ar ei ran

 

 

Signed by authority of the company on whose behalf this notice is given

 

 

[Llofnod aelod neu swyddog awdurdodedig a datganiad o’i safle yn y cwmni]

 

[Signature of authorised member or officer and statement of position in company]

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Cyfeiriad

 

Address

 

[Rhowch y cyfeiriad y dylid anfon unrhyw ohebiaeth yn y dyfodol ynghylch y pwnc hwn iddo]

 

[Give the address to which future communications relating to the subject-matter of the notice should be sent]

Dyddiad [Rhowch y dyddiad]

 

Date [Insert date]

 

NODIADAU : NOTES

 

1. Mae’r gwrth-hysbysiad i’w roi i’r cwmni a roddodd yr hysbysiad. Rhoddir enw a chyfeiriad y cwmni yn yr hysbysiad hwnnw.

 

1. The counter-notice is to be given to the company that gave the claim notice. The company’s name and address are given in that notice.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

2. Rhaid gwneud cais i dribiwnlys prisio lesddaliad o fewn y cyfnod o ddau fis sy’n dechrau ar y diwrnod y rhoddir y gwrth-hysbysiad (neu, os oes mwy nag un, y gwrth-hysbysiad olaf).

 

2. An application to a leasehold valuation tribunal must be made within the period of two months beginning with the day on which the counter-notice (or, where more than one, the last of the counter-notices) was given.

 

 

 

3. I weld pryd y penderfynir cais yn derfynol, gweler adran 84(7) ac (8) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

 

3. For the time at which an application is finally determined, see section 84(7) and (8) of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002.

 


ATODLEN 4 : SCHEDULE 4

 

Rheoliad 6 ac 8(4)

Regulation 6 and 8(4)

 

FFURF HYSBYSIAD CONTRACTIWR
FORM OF CONTRACTOR NOTICE

 

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

COMMONHOLD AND LEASEHOLD REFORM ACT 2002

 

Hysbysiad Contractiwr
Contractor Notice

 

At

 

To

 

 

[enw a chyfeiriad] (Gweler Nodyn 1 isod)

 

[name and address] (See Note 1 below)

 

 

 

1. Rhoddir yr hysbysiad hwn mewn perthynas â chontract rheoli, y rhoddir manylion amdano yn yr Atodlen i’r hysbysiad hwn (“y contract”) (Gweler Nodyn 2 isod)

 

1. This notice is given in relation to the management contract, details of which are given in the Schedule to this notice (“the contract”) (See Note 2 below)

 

 

 

 

 

 

2. Mae’r hawl i reoli

 

 

2. The right to manage

 

 

[rhowch gyfeiriad y fangre y mae’r cwmni RTM i gaffael yr hawl i’w rheoli] (Gweler Nodyn 3 isod)

 

[give the address of the premises which the RTM company is to acquire the right to manage] (See Note 3 below)

 

 

 

(“y fangre”) i’w chaffael gan

 

 

(“the premises”) is to be acquired by

 

 

[rhowch enw’r cwmni RTM]

 

[state name of RTM company]

 

 

 

(“y cwmni”).

 

(“the company”).

 

 

 

 

 

 

3. Swyddfa gofrestredig y cwmni yw

 

3. The registered office of the company is

 

 

[cyfeiriad swyddfa gofrestredig y cwmni RTM]

 

[registered office address of RTM company]


 

4. Dyddiad caffael yr hawl i reoli’r fangre gan y cwmni yw

 

 

4. The date of acquisition of the right to manage the premises by the company is

 

 

[y dyddiad caffael]

 

[date of acquisition]

 

 

 

 

 

 

5. Os ydych yn dymuno darparu gwasanaethau i’r cwmni yr ydych fel y parti contractiwr wedi eu darparu i’r parti rheolwr o dan y contract cynghorir chi i gysylltu â’r cwmni yn y cyfeiriad a roddir ym mharagraff 2 uchod. (Gweler Nodyn 1 isod)

 

5. If you wish to provide to the company services which as the contractor party you have provided to the manager party under the contract you are advised to contact the company at the address given in paragraph 2 above. (See Note 1 below)

 

 

 

 

 

 

Naill ai

 

Either

 

 

 

Llofnodwyd:

 

Signed:

 

 

[llofnod ar ran y cwmni]

 

[signature on behalf of company]

 

 

 

Swyddog awdurdodedig priodol:

 

Duly authorised officer of:

 

 

[enw’r cwmni sy’n rhoi’r hysbysiad]

 

[name of company giving the notice]

 

 

 

Dyddiad:

 

Date:

 

 

 

 

 

Neu

 

Or

 

 

 

Llofnodwyd:

 

Signed:

 

 

[llofnod]

 

[signature]

 

 

 

Gan neu ar ran

 

By or on behalf of

 

 

[enw’r person/endid sy’n rhoi’r hysbysiad hwn]

 

[name of person/entity giving this notice]

 

 

 

Dyddiad:

 

Date:

 

 

 

 

 

 

 

ATODLEN : SCHEDULE

 

Rhowch isod y manylion sy’n ofynnol o dan baragraff 1 uchod

 

Insert details below as required by paragraph 1 above

 

 

 

Enw’r contract fel y nodir ef yn  nogfennau’r contract:

 

Name of contract as set out in the contract documentation:

 

 

 

 

 

Y fangre y mae’r contract yn berthnasol iddi:

 

Premises to which the contract relates:

 

 

 

 

 

Y partïon i’r contract:

 

Parties to contract:

 

 

 

 

 

Dyddiad y contract:

 

Date of contract :

 

 

 

 

 

Cyfnod y contract:

 

Term of contract:

 

 

o fynyddoedd a

 

years and

 

mis

 

months

 

 

 

Unrhyw fanylion eraill y mae eu hangen i ddynodi’r contract y rhoddir yr hysbysiad hwn mewn perthynas ag ef: [Ni ddylid llenwi’r adran hon ond os nad yw’r manylion uchod yn ddigonol i ddynodi’r contract o dan sylw]

 

Any other particulars necessary to identify the contract in relation to which this notice is given: [This section should only be completed if the details above are not sufficient to identify the contract in question]

 

NODIADAU : NOTES

 

1. Mae’r hysbysiad contractiwr (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 4 i Reoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2004) (“Rheoliadau 2011”) yn berthnasol pan fo’r hawl i reoli mangre benodedig i’w chaffael gan gwmni Hawl i Reoli o dan Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad (“Deddf 2002”). Rhaid i’r hysbysiad contractiwr gael ei anfon gan y parti rheolwr at y parti contractiwr mewn perthynas â chontract rheoli sydd eisoes yn bodoli ynghylch y fangre. Ceir y diffiniad o “existing management contract” (“contract rheoli sydd eisoes yn bodoli”) yn adran 91(3) o Ddeddf 2002. Ceir y diffiniad o “manager party” (“parti rheolwr”) a “contractor party” (“parti contractiwr”) yn adran 91(2) o Ddeddf 2002. Mae adran 92(2) o Ddeddf 2002 yn nodi pa bryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiadau o’r fath.

 

1. The contractor notice (a notice in the form set out in Schedule 4 to the Right to Manage (Prescribed Particulars and Forms)(Wales) Regulations 2011) (“the 2011 Regulations”) is relevant when the right to manage certain premises is to be acquired by a Right to Manage company under the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 (“the 2002 Act”). The contractor notice must be sent by the manager party to the contractor party in relation to an existing management contract relating to the premises. The definition of “existing management contract” is in section 91(3) of the 2002 Act. The definitions of “manager party” and “contractor party” are set out in section 91(2) of the 2002 Act. Section 92(2) of the 2002 Act sets out the time when such notices must be given.

 

 

 

2. Os ydych yn barti i is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli gyda pherson arall rhaid i chi (a) anfon copi o’r hysbysiad contractiwr at y parti arall i’r is-gontract a (b) rhoi hysbysiad contract i’r cwmni (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i Reoliadau 2011) mewn perthynas â’r is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli yn unol ag adran 92(4) o Ddeddf 2002. Mae adran 92(5) o’r Ddeddf honno yn diffinio is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli.

 

Mae adran 92(6) o Ddeddf 2002 yn nodi pa bryd y mae’n rhaid rhoi hysbysiadau o’r fath.

 

2. If you are party to an existing management sub-contract with another person you must (a) send a copy of the contractor notice to the other party to the sub-contract and (b) give to the company a contract notice (a notice in the form set out in Schedule 5 to the 2011 Regulations) in relation to the existing management sub-contract in accordance with section 92(4) of the 2002 Act. Section 92(5) of that Act defines an existing management sub-contract.

 

Section 92(6) of the 2002 Act sets out the time when such notices must be given.

 

 

 

3. Y cwmni RTM yw’r cwmni sydd i gaffael yr hawl i reoli mangre yn unol â Rhan 2 o Bennod 1 o Ddeddf 2002.

 

3. The RTM company is the company which is to acquire the right to manage premises in accordance with Part 2 of Chapter 1 of the 2002 Act.

 

 

 

 

 

 

 

 


 

 

ATODLEN 5 : SCHEDULE 5

 

Rheoliad 7 ac 8(5)

Regulation 7 and 8(5)

 

FFURF HYSBYSIAD CONTRACT
FORM OF CONTRACT NOTICE

 

DEDDF CYFUNDDALIAD A DIWYGIO CYFRAITH LESDDALIAD 2002

COMMONHOLD AND LEASEHOLD REFORM ACT 2002

 

Hysbysiad Contract
Contract Notice

 

 

 

 

At

 

To

 

 

[enw a chyfeiriad y cwmni RTM] (Gweler Nodyn 1 isod)

 

[name and address of RTM company](See Note 1 below)

 

 

 

(“y cwmni”)

 

(“the company”)

 

 

 

1. Rhoddir yr hysbysiad hwn mewn perthynas â’r contract, y rhoddir manylion amdano yn yr Atodlen i’r hysbysiad hwn (“y contract”). (Gweler Nodyn 2 isod)

 

1. This notice is given in relation to the contract details of which are given in the Schedule to this notice (“the contract”). (See Note 2 below)

 

 

 

 

 

 

2. Os yw’r cwmni yn dymuno defnyddio’r gwasanaethau y mae’r parti contractiwr, neu’r parti is-gontractiwr, wedi eu darparu i’r parti rheolwr o dan y contract, fe’i cynghorir i gysylltu â’r parti contractiwr, neu’r parti is-gontractiwr

 

2. Should the company wish to avail itself of the services which the contractor party, or sub-contractor party, has provided to the manager party under the contract it is advised to contact the contractor party, or sub-contractor party

 

 

 

yn

 

at

 

 

[y cyfeiriad lle y dylid cysylltu â’r person/endid sy’n rhoi’r hysbysiad hwn]

 

[address at which person/entity giving this notice should be contacted]

 

 

 

Naill ai

 

Either

 

 

 

Llofnodwyd:

 

Signed:


 

[llofnod ar ran y cwmni]

 

[signature on behalf of company]

 

 

 

Swyddog awdurdodedig priodol:

 

Duly authorised officer of:

 

 

[enw’r cwmni sy’n rhoi’r hysbysiad]

 

[name of company giving the notice]

 

 

 

Dyddiad:

 

Date:

 

 

 

 

 

Neu

 

Or

 

 

 

Llofnodwyd:

 

Signed:

 

 

[llofnod]

 

[signature]

 

 

 

Gan neu ar ran:

 

By or on behalf of:

 

 

[enw’r person neu’r endid sy’n rhoi’r hysbysiad hwn]

 

[name of person/entity giving this notice]

 

 

 

Dyddiad:

 

Date:

 

 

 

ATODLEN : SCHEDULE

 

Rhowch y manylion sy’n ofynnol o dan baragraff 1 uchod

 

Insert details required by paragraph 1 above

Enw’r contract:

 

Name of contract:

 

 

 

 

Y partïon i’r contract (Gweler Nodyn 3 isod):

 

Parties to contract (See Note 3 below):

 

 

 

(1)

 

(1)

 

[y parti contractiwr (neu’r parti is-gontractiwr)]

 

 

[contractor (or sub-contractor) party]

 

(2)

 

(2)

 

[y parti rheolwr]

 

 

[manager party]

 

Cyfeiriad y parti contractiwr (neu’r parti is-gontractiwr) o dan y contract:

 

Address of the contractor (or sub-contractor) party under the contract:


 

Dyddiad y contract:

 

Date of contract:

 

 

 

 

Cyfnod y contract:

 

Term of contract:

 

o flynyddoedd a

 

years and

 

mis

 

months

 

 

 

 

 

NODIADAU : NOTES

 

1. Mae’r hysbysiad contract (hysbysiad yn y ffurf a nodir yn Atodlen 5 i Reoliadau’r Hawl i Reoli (Manylion a Ffurflenni Rhagnodedig) (Cymru) 2011) yn berthnasol pan fo’r hawl i reoli mangre benodol i’w chaffael gan gwmni Hawl i Reoli (“cwmni RTM”) o dan Ran 2 o Bennod 1 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”). Rhaid i’r person sy’n barti rheolwr mewn perthynas â chontract rheoli sydd eisoes yn bodoli roi i’r cwmni RTM hysbysiad contract yn unol ag adran 92(1) o Ddeddf 2002. Rhaid i’r person sy’n cael hysbysiad contractiwr ac sydd hefyd yn barti i is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli roi hefyd i’r cwmni RTM hysbysiad contract yn unol ag adran 92(4) o Ddeddf 2002.

 

Diffinnir “existing management contract” (“contract rheoli sydd eisoes yn bodoli”) yn adran 91(3) o Ddeddf 2002. Diffinnir is-gontract rheoli sydd eisoes yn bodoli (“existing management sub-contract”) yn adran 92(5) o Ddeddf 2002.

 

1. The contract notice (a notice in the form set out in Schedule 5 to the Right to Manage (Prescribed Particulars and Forms)(Wales) Regulations 2011) is relevant when the right to manage certain premises is to be acquired by a Right to Manage company (“RTM company”) under Part 2 of Chapter 1 of the Commonhold and Leasehold Reform Act 2002 (“the 2002 Act”). The person who is the manager party in relation to an existing management contract must give to the RTM company a contract notice in accordance with section 92(1) of the 2002 Act. A person who receives a contractor notice who is also party to an existing management sub-contract must also give to the RTM company a contract notice in accordance with section 92(4) of the 2002 Act.

 

“Existing management contract”, is defined in section 91(3) of the 2002 Act. An existing management sub-contract is defined in section 92(5) of the 2002 Act.

 

 

 

2. Nodir yr amser ar gyfer rhoi hysbysiad contract yn adran 92(2) a 92(6) o Ddeddf 2002.

 

2. The time for giving a contract notice is set out in section 92(2) and 92(6)of the 2002 Act.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

3. Diffinnir “contractor party” (“parti contractiwr”) a “manager party” (“parti rheoli”) yn adran 91(2) o Ddeddf 2002 a diffinnir “sub-contractor party” (“parti is-gontractiwr”) yn adran 92(4) o’r Ddeddf honno.

 

3. “Contractor party” and “manager party” are defined in section 91(2) of the 2002 Act and “sub-contractor party” is defined in section 92(4) of that Act.

 

 



([1])   2002 p.15.

([2])   1993 p.38.

([3])   Yn rhinwedd paragraff 30 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) mae’r swyddogaethau a arferid o’r blaen gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel yr “awdurdod cenedlaethol priodol” o dan adran 179(1) o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 wedi’u breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru. Cyfarwyddodd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), erthygl 2(b), Atodlen 1, i’r pŵer yn adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993 fod yn arferadwy, o ran Cymru, gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn gydredol ag unrhyw un o Weinidogion y Goron yr oedd y pŵer yn arferadwy ganddo. Trosglwyddwyd y pŵer i Weinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, a pharagraff 30(1) o Atodlen 11 iddi.

 

([4])   I gael y diffiniad o “landlord” gweler hefyd adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.

([5])   Gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf 2002. O ran “right to manage” gweler adran 71(2) o Ddeddf 2002.

([6])   Gweler adran 112(2), (3) a (5) o Ddeddf 2002.

([7])   Gweler adran 1066 o Ddeddf Cwmnïau 2006 (p.46).

([8])   Gweler adran 100(4) o Ddeddf 2002.

([9])   O ran mangreoedd y mae Pennod 1 o Ran 2 o Ddeddf 2002 yn gymwys iddynt, gweler adran 72 (ac Atodlen 6). O ran “flat” ac “unit” gweler adran 112(1). O ran “lease” gweler adran 112(2). O ran “qualifying tenant” gweler adrannau 75 a 112(4) a (5).

([10])         Gweler adran 79(1) o Ddeddf 2002.

([11])         O ran yr amgylchiadau lle nad oes dadl am yr hawl, gweler adran 90(3) o Ddeddf 2002.

([12])         Gweler adran 91(2) a (4) o Ddeddf 2002.

([13])         Gweler adran 91(2)(b) o Ddeddf 2002.

([14])         Gweler adran 90 o Ddeddf 2002.

([15])         Gweler adran 84(7) ac (8) o Ddeddf 2002.

([16])         Gweler adran 92(1)(a) o Ddeddf 2002.

([17])         Gweler adran 92(1)(b) o Ddeddf 2002.

([18])         Gweler adran 92(4) o Ddeddf 2002.

([19])         OS 2004/678 (Cy.66).